SL(6)579 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch graddau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn dilyn arolygiad o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Daw’r Rheoliadau i rym ar 31 Mawrth 2025.
Mae’r Rheoliadau’n gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau penodol, mewn perthynas â graddau a roddir gan Weinidogion Cymru, i arddangos graddau o’r fath mewn modd ac mewn man a bennir, ac yn ei gwneud yn drosedd methu â gwneud hynny; ac maent yn darparu ar gyfer gweithdrefn apelio yn erbyn graddau o’r fath o dan amgylchiadau penodol.
Y weithdrefn
Cadarnhaol.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth sicrhau bod graddau arolygu yn cael eu rhoi ar gael neu’n cael eu harddangos ym mhob man neu ar gyfer pob man y mae’n darparu gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Diffinnir “darparwr gwasanaeth” yn rheoliad 1 (yn gryno) fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol. Fodd bynnag, nid yw rheoliad 3 yn cyfyngu’r gofynion mewn perthynas ag arddangos neu roi ar gael adroddiadau arolygu i fannau lle y darperir “gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol”. Mae’n cyfeirio at “gwasanaeth”, nad yw wedi’i ddiffinio yn y Rheoliadau. Gallai hyn beri dryswch os oes mwy nag un math o wasanaeth yn cael ei ddarparu mewn unrhyw fan a weithredir gan ddarparwr gwasanaeth, neu os yw darparwr gwasanaeth yn gweithredu gwasanaethau gwahanol o fannau gwahanol. Felly, gofynnir am eglurhad ynghylch pam y mae rheoliad 3 yn cyfeirio at “gwasanaeth” yn hytrach na “gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol”.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
O dan reoliad 4(2)(b), ni chaiff darparwr gwasanaeth gyflwyno apêl yn erbyn y radd a roddwyd iddo hyd nes y bydd y darparwr gwasanaeth wedi cael canlyniad adolygiad Gweinidogion Cymru o’r graddau arolygu. Nid oes cyfnod penodol wedi’i bennu y mae rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r canlyniad hwnnw o’i fewn, a gallai hynny greu ansicrwydd ac oedi i ddarparwyr gwasanaethau o ran cyflwyno apêl. Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam na phenderfynodd bennu cyfnod penodol ar gyfer darparu canlyniad unrhyw adolygiad i ddarparwr gwasanaeth.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae paragraff 5 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn rhwng 29 Gorffennaf a 14 Hydref 2024. Ni roddir unrhyw fanylion ynghylch yr ymgynghoriad hwn, ac mae’r paragraff yn gorffen â cholon, fel pe bai rhagor o fanylion i fod i gael eu hychwanegu. Felly, nid yw’n glir a yw’r adran ar ymgynghori yn y Memorandwm Esboniadol yn gyflawn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
5 Chwefror 2025